Y Pwyllgor  Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir

9 Chwefror 2015

 

 

CLA488 - Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015

Gweithdrefn:  Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn ofynnol er mwyn bod yn sail i’r system cymorth i fyfyrwyr addysg uwch (grantiau at ffioedd, benthyciadau at ffioedd, grantiau cynhaliaeth a benthyciadau cynhaliaeth) sydd fel arfer yn byw yng Nghymru ac sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2015.   Mae’r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2013, fel y’i iwygiwyd.

CLA489 Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Cymru) 2015

Gweithdrefn:  Negyddol

Mae erthygl 3(1) yn gwahardd cadw neu ollwng yng Nghymru, heb drwydded a ddyroddwyd o dan Ddeddf Mewnforio Pysgod Byw (Cymru a Lloegr) 1980, unrhyw rywogaethau o bysgod dŵr croyw anfrodorol byw, neu wyau byw pysgod o’r fath, sy’n perthyn i’r urddau tacsonomaidd a restrir yn y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen.

Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i ddyfroedd mewndirol, er y bu darpariaethau cyfatebol ar gyfer y dyfroedd hynny yn y Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014.  Ni fu’n bosib cynnwys yr holl ddarpariaethau yn yr un offeryn oherwydd bod y Deddfau sy’n galluogi gwneud yr offerynnau wedi pennu’r defnydd o reoliadau a gorchymyn yn eu tro.